Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

 

Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer Is-Deddfwriaeth

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwyniad

Mae'r papur hwn yn crynhoi pwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth fel y'i amlinellir yn y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (y Bil), fel y'i cyflwynwyd i Senedd Cymru ar 20 Medi 2022.

Mae'r papur yn esbonio pam fod y pwerau hyn wedi eu dewis a pholisi presennol y llywodraeth ar gyfer defnyddio'r pwerau hyn. Mae'r cyfiawnhad dros weithdrefn y Senedd a ddewisir wedi ei nodi yn nhabl 5.1 y Memorandwm Esboniadol.

Bydd rheoliadau a wneir gan ddefnyddio'r pwerau hyn yn destun ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau perthnasol a chynrychiolwyr grwpiau nodweddion gwarchodedig.

Bwriad y ddogfen hon yw rhoi cyfle cychwynnol i randdeiliaid roi adborth ar y defnydd arfaethedig o'r pwerau hyn i sicrhau polisi cadarn ac effeithiol a chynorthwyo pwyllgorau wrth graffu ar y Bil. Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried y defnydd o bwerau yn y Bil fel y nodir isod a'u bod yn fodlon eu bod yn angenrheidiol a chyfiawn.

Trosolwg o'r Bil

Mae'r Bil yn cynnwys 4 rhan ac 1 Atodlen.

      Mae Rhan 1 yn amlinellu cysyniadau allweddol, yn nodi'r hyn sy'n gyfystyr â 'chynhyrchion plastig untro gwaharddedig', yn cyflwyno'r Atodlen sy'n cynnwys y rhestr o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, eithriadau cysylltiedig, a diffiniadau ar gyfer y plastigau untro gwaharddedig penodol a restrir yn yr Atodlen.  Mae'r rhan hon hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau i ddiwygio'r Atodlen.

      Mae Rhan 2 yn creu'r troseddau cyflenwi ac yn cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig ac yn amlinellu'r modd o dreialu a’r gosb.

      Mae Rhan 3 yn sefydlu trefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol ac yn rhoi pwerau mynediad ac arolygu i'r awdurdodau lleol.  Mae'r rhan hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau i roi pŵer i awdurdod lleol bennu cosb sifil i unrhyw berson sy'n cyflawni'r drosedd o gyflenwi neu sy'n cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig.

      Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau amrywiol, gan gynnwys darpariaethau ar ddehongli, y pwerau rheoleiddio a phan fydd darpariaethau penodol o fewn y Bil yn dod i rym.

      Mae'r Atodlen yn nodi'r rhestr o 'gynhyrchion plastig untro gwaharddedig', eithriadau ac yn darparu diffiniadau allweddol i gefnogi dehongliad o'r Bil.

Dogfennaeth arall

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r canlynol:

      Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru);

      Y Nodiadau Esboniadol i'r Bil; a

      Y Memorandwm Esboniadol i'r Bil.


 

Pŵer i ddiwygio'r Atodlen

Adran

Ffurflen

Darpariaeth

Gweithdrefn

3

Rheoliadau

Cynhyrchion plastig untro gwaharddedig: pŵer i ddiwygio

Cadarnhaol Drafft

 

Disgrifiad o bŵer

Mae'r ddarpariaeth hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau i ddiwygio'r Atodlen i'r Bil i:

      ychwanegu neu ddileu cynnyrch yng ngholofn 1 o'r Tabl ym mharagraff 1 o'r Atodlen;

      ychwanegu neu ddileu eithriad sy'n ymwneud â chynnyrch yng ngholofn 2 o'r Tabl yn yr Atodlen; ac

      i ychwanegu'r diffiniad o gynnyrch, neu dynnu diffiniad o baragraff 2 o'r Atodlen, neu ddiwygio diffiniad yn y paragraff hwnnw. 

Wrth arfer y pŵer hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried eu dyletswydd i hyrwyddo datblygu cynaliadwy o dan adran 79(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a'u dyletswydd i gynnal datblygiad cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Cynnyrch plastig sydd:

      yn untro;

      yn cael ei restru yng ngholofn 1 o'r tabl yn yr Atodlen i'r Bil, a

      heb eithriad mewn cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Tabl hwnnw sy'n berthnasol mewn perthynas â—

(i) math arbennig o'r cynnyrch, neu

(ii) y diben y cyflenwir y cynnyrch (neu'r math penodol o gynnyrch);

fyddai'n cael ei ystyried yn 'gynnyrch plastig untro gwaharddedig" o dan y Bil. Mae cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig "i ddefnyddiwr yng Nghymru wedi ei wahardd i bob pwrpas o dan y Bil gan y byddai person sy'n cyflenwi cynnyrch o'r fath- i ddefnyddiwr yng Nghymru yn cyflawni trosedd o dan adran 5 o'r Bil. 

O ystyried bod y pŵer hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol, mae'n briodol bod rheoliadau o'r fath i'w gwneud yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.

Pwrpas a bwriad polisi

Bydd y ddarpariaeth o wneud rheoliadau yn galluogi'r ddeddfwriaeth i gadw i fyny ag unrhyw dystiolaeth wyddonol sy'n dod i'r amlwg a allai awgrymu bod cynhyrchion plastig untro eraill yn broblematig neu os yw newid mewn ymddygiad defnyddwyr wrth brynu cynhyrchion plastig untro yn cael ei brofi'n niweidiol i'r amgylchedd.

Er enghraifft, cododd ymatebwyr i'n hymgynghoriad bryderon am y sbwriel a'r gwastraff sy'n gysylltiedig â phecynnau sawsiau prydau parod neu sengl a phresenoldeb rhai cynhyrchion misglwyf sy'n cynnwys plastig yn ein hafonydd a'n môr.  Wrth inni gasglu rhagor o dystiolaeth am effaith y cynhyrchion plastig hyn ac argaeledd dewisiadau amgen addas, bydd gan Weinidogion y gallu i weithredu drwy reoliadau i ychwanegu'r eitemau hyn at yr Atodlen i’r Bil a gwahardd neu gyfyngu ar gyflenwad y cynhyrchion plastig untro hyn.

Wrth gyflwyno gwaharddiadau yn y dyfodol, byddwn yn dilyn proses sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Lle bo angen, byddwn yn ymgynghori â'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan unrhyw waharddiad, ac yn sicrhau bod effaith gwahardd y cynhyrchion yn cael ei ystyried yn llawn. Byddwn ni hefyd yn sefydlu bwrdd prosiect goruchwylio a phanel cynghori ar gyfer cynhyrchion untro. Bydd y grwpiau hyn yn adolygu cynnydd ein cynigion polisi a deddfwriaethol yn rheolaidd, drwy fonitro prosiectau sy'n benodol i'r cynnyrch. Byddwn ni'n sefydlu cerrig milltir uchelgeisiol i sicrhau cynnydd cyflym, gan alluogi atebolrwydd, cyflenwi a gwerthuso. Byddwn yn sefydlu mecanweithiau priodol i gydweithio â rhanddeiliaid a'u cynnwys wrth ddatblygu a darparu ein cynigion.

Mae'r Bil hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i nodi, mewn adroddiad y mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wybodaeth ynghylch eu hystyriaeth i ddefnyddio’r rheoliad hwn sy'n creu pwerau i ychwanegu cynhyrchion pellach neu wneud newidiadau i eithriadau sydd wedi'u cynnwys yn y Bil cyfredol. 


 

Pŵer i wneud Rheoliadau i roi pŵer i awdurdod lleol osod sancsiynau sifil mewn perthynas â throsedd

Adran

Ffurflen

Darpariaeth

Gweithdrefn

17

Rheoliadau

Sancsiynau Sifil

Cadarnhaol Drafft

 

Disgrifiad o bŵer

Mae'r ddarpariaeth hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau i roi pŵer i awdurdod lleol osod cosb sifil ar unrhyw berson sy'n cyflawni'r drosedd o gyflenwi neu sy'n cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig o dan adran 5 o'r Bil.  

Mae'r pŵer hwn yn cyfateb i'r hyn a geir yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddio 2008 (c.13) ("RESA"). Mae Rhan 3 o RESA yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer pwerau cosbi sifil amgen ar gyfer troseddau troseddol perthnasol sy'n ymwneud â diffyg cydymffurfiaeth rheoliadol. Y sancsiynau sifil sydd ar gael o dan RESA yw: cosbau ariannol sefydlog, gofynion dewisol, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi. Maent yn ddewis arall, yn hytrach nac yn disodli euogfarn droseddol, yn enwedig am fân dramgwyddiadau o ofynion rheoleiddio.

Mae'r ddarpariaeth hon yn cymhwyso adran 63 i 69 o RESA i reoliadau a wnaethpwyd o dan yr adran hon fel y byddent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan Ran 3 o RESA.  Nodir effaith hyn yn y paragraffau canlynol.

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi pŵer i awdurdod lleol osod cosb sifil mewn perthynas â throsedd, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd wneud darpariaeth i sicrhau'r canlyniadau canlynol (gweler adran 63 o RESA)—

      bod yr awdurdod yn cyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o'r gosb;

      bod canllawiau'n cynnwys gwybodaeth benodedig, yn dibynnu ar y math o gosb - megis yr amgylchiadau y mae cosb ariannol neu hysbysiad stop yn debygol o gael ei osod, yr amgylchiadau pan na ellir eu gosod; swm unrhyw gosb ariannol; sut i ollwng cosbau a hawliau apêl a thebyg;

      bod y canllawiau yn cael eu diwygio pan fo hynny'n briodol;

      bod yr awdurdod yn ymgynghori â phobl a bennir yn rheoliadau Gweinidogion Cymru cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau;

      bod yr awdurdod wedi rhoi sylw i'r canllawiau wrth arfer swyddogaethau.

Pan roddir pŵer ar awdurdod lleol i osod cosb sifil mewn perthynas â throsedd rhaid i'r awdurdod hefyd—

            • baratoi a chyhoeddi canllawiau ynghylch sut y mae'r drosedd i'w gorfodi (gweler adran 64 RESA);

            • cyhoeddi adroddiadau am yr achosion lle mae'r gosb sifil wedi'i gosod (gweler adran 65 RESA).

Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol i osod cosb sifil mewn perthynas â throsedd oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y bydd yr awdurdod yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion a ganlyn (y cyfeirir atynt yn RESA fel "yr egwyddorion rheoleiddiol") wrth arfer y pŵer hwnnw—

            • y dylid cynnal gweithgareddau rheoleiddio mewn ffordd sy'n dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson; a

            • y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddio dim ond mewn achosion lle mae angen gweithredu.

Os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi pŵer i osod sancsiynau sifil, rhaid iddynt edrych ar sut y caiff y pŵer hwnnw ei weithredu (gweler adran 67 o RESA) a chânt atal pŵer awdurdod lleol i osod sancsiynau o'r fath (gweler adran 68 o RESA).

Rhaid i dderbynebau sancsiynau sifil — e.e. wedi talu cosbau ariannol — gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru lle mae gan yr awdurdod lleol swyddogaethau mewn perthynas â Chymru yn unig (gweler adran 69 o RESA).

Mae'r ddarpariaeth hon hefyd yn cymhwyso adran 60(1) a (2) o RESA i reoliadau a wneir o dan yr adran hon fel y byddent yn gymwys i orchymyn a wneir o dan Ran 3 o RESA.  Mae hyn yn golygu, cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, fod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori gyda’r

(a) rheoleiddiwr y mae'r rheoliadau'n ymwneud ag ef,

(b) y cyfryw sefydliadau yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli personau yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y cynigion, a

(c) personau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Os, o ganlyniad i'r gofyniad ymgynghori uchod, yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn briodol newid yn sylweddol y cyfan neu unrhyw ran o'r cynigion, rhaid i Weinidogion Cymru gynnal ymgynghoriad pellach o'r fath mewn perthynas â'r newidiadau ag y maent yn ystyried yn briodol.

Gan fod hwn yn bŵer cymharol eang mae'n briodol bod rheoliadau o'r fath yn cael eu gwneud yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft

Pwrpas a bwriad polisi

Prif nod y pŵer hwn yw darparu mecanwaith gorfodi amgen i Awdurdodau Lleol sy'n golygu bod pobl yn cydymffurfio â gofynion y Bil.

Tra'r ydym yn rhagweld y bydd Swyddogion Gorfodi yn ceisio cysylltu â busnesau cyn cymryd camau gorfodi ffurfiol ac y bydd y ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â negeseuon codi ymwybyddiaeth, bydd sefydlu trefn Sancsiynau Sifil yn caniatáu gweithredu pellach pan fydd achosion o dorri rheolau bwriadol neu arwyddocaol. Gall hyn gynnwys hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau stop a chosbau ariannol amrywiol.

Pan fo diffyg cydymffurfio dro ar ôl tro gyda'r ddeddfwriaeth yna byddai gorfodaeth yn symud i ddefnyddio sancsiynau troseddol. Bydd aelodau'r cyhoedd a manwerthwyr yn gallu herio penderfyniad a wnaed drwy apelio drwy system y llysoedd.

Nododd adolygiad gan Lywodraeth Cymru o sancsiynau sifil ar gyfer troseddau amgylcheddol yn 2015 bod defnyddio sancsiynau sifil yn atal diffyg cydymffurfiaeth, yn darparu ffordd effeithiol a theg o orfodi, yn lleihau'r peryglon o niwed amgylcheddol ac yn atal niwed rhag digwydd neu barhau i ddigwydd.